Dw i’n cynnig sesiynau wyneb yn wyneb, ar-lein drwy Teams, neu dros y ffôn.
Bydd pob sesiwn yn para 50 munud.
Mae’n ddefnyddiol cadw at yr un amser pob wythnos, oleiaf yn y dechrau. Mae’n mae’n bwysig i fi fod y raddfa cwnsela’n gweithio i ti – felly gallwn ni newid hyn wrth i’r sesiynau fynd yn eu blaen.
Rwy’n cynnig sesiynau ar-lein, neu wyneb yn wyneb yn fy swyddfeydd yng Nghaerdydd. Mae parcio ar gael.
Edrychwch ar fy nghalendr am fanylion argaeledd.
Rwy’n deall bod yn rhaid i gleientiaid gydbwyso gwaith, gofal plant, a chyfrifoldebau eraill, felly rwy’n ceisio cynnig ystod o oriau sydd yn gweithio i chi.
Rydw i’n codi £60 y sesiwn, ac mae’r ffi’n cael ei hadolygu bob blwyddyn ym mis Ebrill.
Dw i’n gofyn yn garedig am daliad o leia 2 ddiwrnod cyn ein sesiwn. Bydd manylion fy nghyfrif banc ar gael pan fyddi di’n bwcio dy sesiwn gyntaf.
Os nad yw’r taliad wedi dod i law cyn y sesiwn, efallai na fydd y sesiwn yn cymeryd lle. Gad i fi wybod os wyt ti’n cael unrhyw anhawster gyda thalu.
Myfyrwyr cwnsela – £40 y sesiwn.
Os bydd rhaid i ti ganslo neu ail-drefnu sesiwn, gofynnaf am oleiaf 24 awr o rybudd, neu bydd yn rhaid talu’r ffi lawn.
Os wyt ti’n rhoi 24 awr o rybudd, rwyt ti’n gallu dewis cael ad-daliad neu ddefnyddio’r taliad tuag at ffi’r sesiwn nesaf.