Cangen o gymorth yn y tywyllwch
Cwnsela | Caerdydd | De Cymru | Ar-lein
Sut all cwnsela helpu?
Fel cwnselydd, dw i’n awyddus i ddeall beth sy’n digwydd i ti, a pham mae bywyd yn teimlo’n anodd ar hyn o bryd.
Yn ein sesiynau, cei siarad am beth sy’n achosi gofid i ti, neu sy’n effeithio ar dy allu i fyw’r bywyd rwyt ti eisiau. Byddi di mewn man diogel i fynegi dy hun yn rhydd – heb feirniadaeth.
Fy nod i yw bod yna I dy gefnogi i ddod o hyd I’r ffordd ymlaen.
Dw i’n credu bod y nerth a’r adnoddau gyda ti eisioes I greu pa bynnag fywyd r’wyt ti’n ei ddymuno.
Gyda’n gilydd, byddwn ni’n adeiladu perthynas therapiwtig diogel bydd yn rhoi’r sylfaen i ti archwilio sut mae’r bywyd yna’n edrych I ti.
Mae unrhyw beth sy’n achosi gofid i ti yn ddilys ac yn haeddu sylw.
Os wyt ti’n meddwl y gall cwnsela fod o gymorth i ti, cysyllta â fi.
Cei drefnu apwyntiad drwy ddefnyddio’r ddolen ‘Gwneud Apwyntiad’ isod.
Mae dewis cwnselydd yn benderfyniad pwysig. Dw i eisiau i ti deimlo’n gyfforddus gyda’r penderfyniad i weithio gyda fi. Felly, os oes gen ti unrhyw gwestiynau am gwnsela, neu am sut dw i’n gweithio, llenwa’r ffurflen ymholi ac mi wna i anelu at ymateb o fewn 48 awr.
Os byddai’n ddefnyddiol, gallwn ni drefnu sgwrs gychwynnol dros y ffôn. Mae hynny’n rhoi cyfle i ni drafod y rhesymau rwyt ti’n ystyried cwnsela, a gweld a allai fod yn fuddiol i ti — ac os ydw i’n addas i dy helpu.
Cyn gynted ag y bydd apwyntiad wedi’i gadarnhau, mi wna i anfon cytundeb a ffurflen wybodaeth atat i’w llenwi. Bydd y manylion talu ar y cytundeb, ac mae’r taliad yn ddyledus 2 ddiwrnod cyn yr apwyntiad.
Dw i’n deall bod dod i sesiwn gwnsela yn gallu bod yn anodd.
Dw i’n deall hyn ac yn parchu ffiniau rwyt ti am eu gosod. Efallai fod yna bethau nad wyt ti eisiau siarad amdanyn nhw – ac mae hynny’n hollol iawn.
Y peth pwysig yw bod y sesiynau cwnseal yn teimlo’n gyfforddus, ac yn ddiogel i ti.
Efallai nad wyt ti’n sowre to beth rwyt eisiau ei gael allan o’r broses – ac mae hynny hefyd yn iawn. Fy rôl i yw helpu ti i ddod o hyd i eglurder.
Gyda’n gilydd, byddwn ni’n ceisio gweld beth sy’n achosi’r gofid, ac yn cytuno ar ffurdd i ddod I hyd I’r ffordd ymlaen, gyda’n gilydd.