Cymuned LGBTQIA+
Dw i’n gynghreiriad i’r gymuned LGBTQIA+ ac mae gen i brofiad personol o gefnogi fy mab traws wrth iddo lywio ei hunaniaeth rhywedd a’i rywioldeb – ynghyd â’r holl heriau sy’n gallu dod gyda hynny.
Mae cynnig lle diogel i bawb yn bwysig iawn i fi, yn enwedig yn y cyfnod presennol lle mae barnu a gormes, yn anffodus, ar gynnydd.
Mae croeso i bawb fan hyn.
Cymuned niwroamrywiol
Dw i’n deall bod pawb yn unigryw, beth bynnag dy ddiagnosis neu dy brofiad o niwroamrywiaeth. Weithiau, mae newid y ffordd arferol o wneud pethau’n gallu bod yn fuddiol.
Er enghraifft, dw i’n gallu anfon neges destun i atgoffa am sesiynau – sy’n gallu helpu gyda "time blindness" – ac rydw i wedi creu cynllun penodol ar gyfer pob sesiwn, gyda chyfraniad fy nghleient, i helpu reoli teimladau llethol.
Os oes unrhyw beth allai fod yn ddefnyddiol i ti, gad i fi wybod – a bydda i’n gwneud fy ngorau glas i wneud y sesiynau mor hygyrch â phosib.
Pobl anabl
Os oes gyda ti unrhyw ofynion penodol oherwydd anabledd, anaf neu salwch – dylet ti deimlo’n rhydd i roi gwybod i fi. Gwnaf bopeth o fewn fy ngallu i wneud dy brofiad mor gefnogol a hygyrch ag sy’n bosib.