Sut dw i’n gweithio
Mae fy nghefndir damcaniaethol yn un dyneiddiol, sy’n golygu bod fy ngwaith yn rhoi ti, y client wrth galon y broses. Dw i’n gweithio mewn ffordd hyblyg, gan deilwra’r therapi yn ôl anghenion unigryw pob un. Dw i’n credu bod iachâd yn digwydd pan fydd rhywun yn teimlo ei bod yn cael ei gweld a’i clywed – ac yn rheoli ei taith ei hunain.
Mae f’arddull yn un cydweithredol ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma. Dw i’n dod â phresenoldeb tawel a sefydlog i’r sessiwn – sy’n helpu pobl i deimlo’n ddiogel, ac yn gallu symud ymlaen ar gyflymder sy’n teimlo’n iawn i ti.
Fy nghefndir a’m maes arbenigedd
Mae gen i gefndir o weithio yn y maes cyfraith teulu ac amddiffyn plant, sy’n rhoi dealltwriaeth cadarn i fi o ba mor boenus a chymhleth all bywyd – ac yn enwedig perthnasau – fod. Yn ogystal â cefnogi pobl sy’n delio â chwalu perthynas, dw i wedi gweithio gyda phobl sydd wedi profi pob math o gamdriniaeth – gan gynnwys trais domestig a rheolaeth orfodol (coercive control).
Mae fy ngwaith yn y maes amddiffyn plant wedi rhoi dealltwriaeth dyfnach i fi o sut mae unrhyw fath o gamdriniaeth yn gallu effeithio ar ddatblygiad person ac ar y ffordd maen nhw’n gweld eu hunain.
Os wyt ti wedi gorfod mynd trwy achos llys teulu, efallai bod angen cefnogaeth arnat ti i brosesu’r emosiynau y gall hynny ei achosi. Mae’r broses yma’n gallu bod yn anodd dros ben, ac mae gen i wybodaeth helaeth am sut all hyn effeithio ar bob aelod o’r teulu – mae’n brofiad sy’n gallu gadael ei ôl mewn ffyrdd sy’n ei wneud yn anodd symud ymlaen. Gallaf dy helpu i brosesu a deall beth sydd wedi digwydd.
Dw i wedi cael hyfforddiant penodol i weithio gyda phobl sydd wedi profi trais rhywiol, a dw i’n deall bod byw gyda’r effaith o’r math yna o gamdriniaeth yn gallu cymryd drosodd dy fywyd. Mae goroesi yn dod yn brif ffocws – ac mae dy anghenion di’n cael eu colli yng nghanol rheoli ymatebion argyfwng drwy’r amser.
Mae’n gwbl arferol i oroeswyr pob math o drawma brofi symptomau parhaus fel teimladau o ddibwysedd, euogrwydd, anawsterau cysgu, anhawster rheoli emosiynau, neu teimlo wedi cau i lawr. Dw i’n cynnig lle diogel i ti brosesu’r trawma – ond dim ond pan fyddi di’n teimlo’n ddigon sefydlog a diogel i wneud hynny. Mae dy ddiogelwch di yn brif flaenoriaeth i fi.
Fel rhiant i blentyn traws, mae gen i brofiad personol o sut all y daith yma effeithio ar y plentyn – ond hefyd ar y rhiant. Dw i’n deall mor ddinistriol all dysfforia rhywedd fod, a’r teimlad yna o beidio ffitio mewn unrhyw le.
Yn bwysig, dw i’n gallu cynnig gobaith – fel rhywun sydd wedi llywio’r cyfnodau anodd yna ac sydd bellach yn gweld canlyniad cadarnhaol.