Mae dewis cwnselydd yn benderfyniad pwysig. Dw i eisiau i ti deimlo’n gyfforddus gyda’r penderfyniad i weithio gyda fi.
Felly, os oes gen ti unrhyw gwestiynau am gwnsela, neu am sut dw i’n gweithio, llenwa’r ffurflen ymholi ac mi wna i anelu at ymateb o fewn 48 awr.
Os byyddai’n ddefnyddiol, gallwn ni drefnu sgwrs gychwynnol dros y ffôn. Mae hynny’n rhoi cyfle i ni drafod y rhesymau rwyt ti’n ystyried cwnsela, a gweld a allai fod yn fuddiol i ti — ac os ydw i’n addas i dy helpu.